Math | adfeilion castell, canolfan treftadaeth, castell |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Gelli Gandryll |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 105.8 metr |
Cyfesurynnau | 52.074°N 3.12597°W |
Arddull pensaernïol | Jacobean architecture |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | BR076 |
Castell a phlasty yn y Gelli Gandryll, Powys, yw Castell y Gelli. Mae rhannau Normanaidd, Jacobeaidd a Fictoraidd i'r adeilad presennol, sydd wedi'i ddadfeilio'n rhannol.
Mae'n debyg y dechreuwyd y castell tua'r 1070au.[1] Bu Gerallt Gymro yn pregethu'r Groesgad y tu allan i'r adeilad ym 1188.[1] Cipiwyd y castell gan y brenin John ym 1208 ac fe'i adennillwyd gan y brodyr Breos ym 1215.[2] Ym 1231 ymosododd Llywelyn Fawr ar y castell a'i losgi.[3]
Ym 1233 daeth y castell yn bencadlys Harri III ar gyfer ei gyrch yn erbyn Walter Clifford, arglwydd Cantref Selyf.[4] Ym 1265 arwyddwyd cytundeb yma gan Llywelyn II, Simon de Montfort a Harri III (a oedd erbyn hyn yn garcharor i Simon de Montfort) i ffurfio cynghrair.[5] Yn dilyn goresgyniad Cymru gan Edward I, mab Harri, daeth Castell y Gelli yn eiddo i'r teulu de Bohun, a'r rhain oedd y perchnogion am bron i ganrif.[6]
Yn y 1400 garsiynwyd y castell yn erbyn gwrthryfel Owain Glyn Dŵr; efallai fe'i ysbeiliwyd rywbryd ar ôl Brwydr Bryn Glas ym 1402.[7] Ychwanegwyd y plasty gan y teulu Gwynn. Llosgodd ochr orllewinol y tŷ mewn tân ym 1939, a'r ochr ddwyreiniol ym 1977.[8]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search